Prosiectau ar hyn o bryd / Current projects

Ers sefydlu ym Mis Medi 2023 mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth. Dw i wedi gweithio gyda phum dalgylch gwahanol ym Motwnnog, Harlech, Bala , Dolgellau a Thywyn gan weithio mewn sawl ysgol Uwchradd a Chynradd. Roedd y gwaith yma'n rhan o grant i ddatblygu'r Gymraeg. Dw i wedi mwynhau'r profiad yn arw ac yn cael fy ngwadd yn ôl i sawl ysgol. Dw i wedi bod yn cynnal dau ddiwrnod o weithdy ym mhob ysgol gyda pherfformiad ar y diwedd. Rwyf hefyd wedi bod yn ffilmio'r broses ac yna'n golygu fideo i'r ysgol gael fel cofnod.

Cysylltwch os ydych am weld enghreifftiau o'r gwaith neu i drafod eich anghenion chi! Cliciwch 'gwasanaeth' uchod i weld be allaf gynnig.

 

Since its launch in September 2023, the company has  grown from strength to strength. I have collaborated with five different catchment areas in Botwnnog, Harlech, Bala, Dolgellau, and Towyn, working in numerous Secondary and Primary schools. This initiative was part of a grant aimed at improving the Welsh language. The experience has been immensely rewarding, and I've had the pleasure of being invited back to several schools. I have ran a   two-day workshop in each school with a performance at the end. Additionally, I have documented the process by filming and editing a video for each school to keep as a record.

Please reach out if you're interested in viewing examples of the work or to discuss your specific requirements! Click 'service' above to see what I can offer. 

 

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws Ynys Môn, Eifionydd a Chaerdydd, gan gynnig gweithdai drama wedi’u teilwra’n benodol i gwrdd ag anghenion a themâu’r ysgolion unigol. Mae pob gweithdy’n rhoi cyfle i blant greu, mynegi eu hunain ac ennill hyder drwy gyfrwng y celfyddydau perfformio.

Y llynedd, bues i’n cydweithio â chlwstwr eang o ysgolion yn ardaloedd Pen Llŷn, Ardudwy, Dolgellau a Thywyn – pob un yn derbyn dau ddiwrnod llawn o weithdai ysbrydoledig. Mae'r ymateb gan y disgyblion a'r athrawon wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae’n bleser gweld y wefr o greu yn dod yn fyw yn y dosbarth.

Yn y cyfnod sydd i ddod, byddaf yn symud ymlaen i ardal Dinbych i gyflwyno rhagor o weithdai cyn canolbwyntio ar fy rhan mewn sioe gerdd newydd sbon ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni – cyfle arbennig i fod yn rhan o gynhyrchiad ar lwyfan cenedlaethol.

Mae’r dyddiadur yn llenwi’n gyflym, felly os hoffech archebu gweithdy neu drafod prosiect i’ch ysgol neu sefydliad, byddai’n bleser clywed gennych.

 

Recently, I’ve been working with schools across Anglesey, Eifionydd and Cardiff, delivering tailor-made drama workshops designed to meet each school’s individual themes and educational needs. Each session offers children the opportunity to create, express themselves, and grow in confidence through the performing arts.

Last year, I collaborated with a wide range of schools across the Pen Llŷn, Ardudwy, Dolgellau and Tywyn areas – each receiving two full days of inspiring drama workshops. The feedback from pupils and teachers alike has been overwhelmingly positive, and it’s been a joy to see the spark of creativity come alive in the classroom.

In the coming weeks, I’ll be heading to the Denbigh area to deliver more workshops before turning my focus to performing in a brand new musical at this year’s National Eisteddfod Pavilion – a fantastic opportunity to be part of a large-scale national production.

My diary is filling up quickly, so if you’d like to book a workshop or discuss a potential project for your school or organisation, I’d love to hear from you.